Social Worker - Multi-Agency Safeguarding Hub (MASH)
Posted 2 hours 34 minutes ago by CARDIFF COUNTY COUNCIL
Cardiff is a vibrant multi-cultural city and this is reflected in the many issues referred to the service. As a Worker in the MASH you could be involved in case discussions with various professionals including: police, health and politicians, decision making at a critical early point.
This is an exciting time to be joining the team with the introduction of the Social Service & Wellbeing Act (SSWB Act) and the development of the Multi Agency Safeguarding Hub (MASH) which means the team is based in a co-located unit at Cardiff Bay Police Station with partner agencies engaged in the Safeguarding agenda.
Fast paced, office based, no case holding but with a constantly changing work load the Children's Services MASH team is looking to recruit a suitably experienced Grade 8 Social Worker.
The work involves timely risk assessment of contacts / referrals to the MASH and the early identification of those at risk including multi agency strategy discussions for decision making and safeguarding actions.
It is essential you are a Registered Social Worker for this post.
Mae Caerdydd yn ddinas fywiog amlddiwylliannol ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn nifer yr achosion sy'n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth. Fel Gweithiwr yn y MASH, gallech fod yn rhan o drafodaethau achos gyda gweithwyr proffesiynol amrywiol gan gynnwys yr heddlu, swyddogion iechyd a gwleidyddion, a gwneud penderfyniadau ar gam cynnar hanfodol.
Mae hi'n amser cyffrous i ymuno â'r tîm yn sgîl cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a datblygu Hyb Diogelu Aml Asiantaeth, sy'n golygu bod y tîm wedi'i leoli mewn uned ar y cyd yng Ngorsaf yr Heddlu, Bae Caerdydd gydag asiantaethau eraill sy'n ymwneud â'r agenda Diogelu.
Mewn swyddfa brysur, dim cyfrifoldeb achosion unigol, ond â llwyth gwaith sy'n newid yn gyson, mae'r tîm Gwasanaethau Plant (MASH) yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Gradd 8 â phrofiad addas.
Mae'r gwaith yn cynnal cynnwys asesiadau risg amserol o'r cysylltiadau / atgyfeiriadau i'r Hyb Diogelu Aml Asiantaeth, a nodi'n gynnar y plant hynny sydd mewn perygl gan gynnwys cynnal trafodaethau amlasiantaeth ar strategaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau ac ar gamau diogelu.
Mae'n hanfodol eich bod yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer y swydd hon.