Research Associate in Lorentzian Manifold Reconstruction
Posted 1 day 21 hours ago by Internal & External Website
We are looking for a Research Associate to support a UKRI Future Leaders Fellowship in the School of Mathematics. This project aims to find rigorous mathematical connections between continuous models of spacetime (Lorentzian manifolds) and discrete models (causal sets).
Responsibilities- Study how geometric bounds constrain the topology of Lorentzian manifolds.
- Develop algorithms to recover Lorentzian manifolds from finite point samples.
- Use tools from mathematical statistics to evaluate these algorithms.
- Create a structured personal development plan with financial support to build your career in research mathematics.
- Hold a PhD in Mathematics, or be nearing completion of a PhD.
- Have a proven portfolio of research in Lorentzian geometry and/or manifold reconstruction.
- Have a proven ability to demonstrate creativity, innovation and team working.
We can offer you the chance to work in a vibrant organisation with great benefits and opportunities for progression. We are a proud Living Wage supporter. This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you may spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility wherever the role and business need allows, supporting work life balance.
Salary: £41,064 - £46,049 per annum (Grade 6).
Closing date: Thursday, 11 June 2026.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, BAME or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Responsible Research Assessment (DORA)Cardiff University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA), meaning that in hiring and promotion decisions we will evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics or the identity of the journal in which the research is published. More information is available at Responsible research assessment - Research - Cardiff University.
Cymraeg - Ymchwil Adlunio Maniffoldau LorentzaiddRydym yn chwilio am Gymrawd Ymchwil i gefnogi Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI yn yr Ysgol Mathemateg. Nod y prosiect hwn yw dod o hyd i gysylltiadau mathemategol trylwyr rhwng modelau gofod amser parhaus (maniffoldau Lorentzaidd) a modelau arwahanol (setiau achosol).
Y Rôl- Astudio sut mae arffiniau geometrig yn cyfyngu ar dopoleg maniffoldau Lorentzaidd.
- Datblygu algorithmau i adfer maniffoldiau Lorentziaidd o samplau pwynt meidraidd.
- Defnyddio adnoddau o ystadegaeth fathemategol i werthuso'r algorithmau hyn.
- Creu cynllun datblygu personol strwythuredig gyda chymorth ariannol i ddatblygu eich gyrfa ym maes ymchwil mathemateg.
- PhD mewn Mathemateg neu ar fin gorffen PhD.
- Portffolio diamheuol o waith ymchwil ym maes geometreg a/neu adlunio maniffoldau Lorentzaidd.
- Gallu diamheuol i fod yn greadigol, yn arloesol ac i weithio mewn tîm.
Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy'n cynnig buddion gwych a chyfleoedd i ddatblygu yn eich gyrfa. Rydym yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.
Mae'r swydd hon yn gymwys i gael ei chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny'n golygu y cewch, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws, dreulio rhywfaint o amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. eich cartref. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo'r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn i chi allu sicrhau cydbwysedd rhwng eich gwaith a'ch bywyd personol.
Cysylltwch â Dr John Harvey, Arweinydd y Prosiect () neu'r Athro Angela Mihai () am drafodaeth anffurfiol, gyfrinachol am y rôl. Swydd amser llawn yw hon am gyfnod penodol o dair blynedd. Oherwydd cyfyngiadau ariannol, o 1 Hydref 2026 tan 30 Medi 2029 yn unig y mae'r swydd hon ar gael.
Cyflog: £41,064 - £46,049 y flwyddyn (Gradd 6).
Dyddiad cau: Dydd Iau, 11 Mehefin 2026.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o'r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o'r gymuned, beth bynnag fo'u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio'n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi'i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd.