Post Graduate Moderator/Tutor (PgDip/MSc in Practical Dermatology)

Posted 1 hour 39 minutes ago by Cardiff University

Permanent
Part Time
Academic Jobs
South Glamorgan, United Kingdom
Job Description

Job Advert

Post Graduate Moderator/Tutor (PgDip/MSc in Practical Dermatology)
Centre for Medical Education
School of Medicine
College of Biomedical and Life Sciences

The Centre for Medical Education is looking to recruit a Postgraduate Taught Moderator / Tutor to join our team delivering the PgDip and MSc programmes in Practical Dermatology. This role provides academic support to the programme, working closely with staff, students and external stakeholders to do so.

The School of Medicine provides a broad range of undergraduate and postgraduate education that directly improves health outcomes and healthcare for patients and families. This includes the PgDip/MSc programmes in Practical Dermatology, innovative, part-time and full time online programmes that supports clinicians to apply advances in practical dermatology so that they can provide and critically evaluate services.

The post is based at the Heath Park site.

This role is eligible to be offered on a blended working basis, meaning that as well as spending time working on campus you can also choose to spend some time working from another location, e.g. your home. The University is committed to offering this flexibility, wherever the role and business need allows, supporting work-life balance

Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave pro rata (incl bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It is an exciting and vibrant place to work, with many different challenges and is a proud Living Wage supporter.

This post is a variable hours (anticipated hours are 4.5 per week to be worked throughout the week), ongoing position and is available from 1st September 2026.

Salary: £114,099 - £140,342 per annum (pro rata). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.

For informal enquiries please contact Dr Flora Kiss, Programme Director via or on .

Date post advertised: Tuesday, 22 September 2026 Closing date: Tuesday, 6 October 2026

Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those from under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT +, BAME or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.

Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.

How we will support you in performing in this role
  1. Regular one-to-ones with your manager
  2. An experienced and supportive team around you
  3. Supporting you through job-relevant training and development that you may require
  4. A mentoring scheme

Hysbyseb Swydd

Cymedrolwr/Tiwtor Ôl-raddedig (PgDip/MSc mewn Dermatoleg Ymarferol)
Canolfan Addysg Feddygol
Yr Ysgol Meddygaeth
Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd

Mae'r Ganolfan Addysg Feddygol yn bwriadu recriwtio Cymedrolwr / Tiwtor Ôl-raddedig a Addysgir i ymuno â'n tîm sy'n cyflwyno'r rhaglenni PgDip ac MSc mewn Dermatoleg Ymarferol. Mae'r rôl hon yn darparu cymorth academaidd i'r rhaglen, gan weithio'n agos gyda staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol i wneud hynny.

Mae gan yr Ysgol Meddygaeth ystod eang o raglenni addysg israddedig ac ôl-raddedig sy'n gwella deilliannau iechyd a gofal iechyd yn uniongyrchol i gleifion a theuluoedd. Mae hyn yn cynnwys y rhaglenni PgDip/MSc mewn Dermatoleg Ymarferol, rhaglenni ar-lein arloesol, rhan-amser a llawn-amser sy'n cefnogi clinigwyr i gymhwyso datblygiadau mewn dermatoleg ymarferol fel y gallant ddarparu gwasanaethau a'u gwerthuso'n feirniadol.

Lleolir y swydd ar safle Parc y Mynydd Bychan.

Mae'r swydd hon yn gymwys i'w chynnig ar sail gweithio cyfunol. Mae hynny'n golygu, yn ogystal â gweithio ar y campws, y cewch weithio o leoliad arall (e.e. eich cartref) rywfaint o'r amser. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo'r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu, a hynny er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng y gwaith a'ch bywyd personol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych sy'n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio, lle mae nifer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.

Mae hon yn swydd oriau amrywiol (rhagwelir bod 4.5 awr yr wythnos i'w gweithio drwy gydol yr wythnos), barhaus, ac mae ar gael o 1 Medi 2026.

Cyflog: £114,099 - £140,342 y flwyddyn (pro-rata). Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.

Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, gysylltwch â Dr Flora Kiss, Cyfarwyddwyr y Rhaglen trwy neu ar .

Dyddiad hysbysebu'r swydd:Dydd Mawrth, 22 Medi 2026
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 6 Hydref 2026

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chreu gweithle cynhwysol. Rydym o'r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned, beth bynnag fo'u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio'n hyblyg neu rannu'r swydd.

Cewch gyflwyno cais yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Welsh ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sut y byddwn yn eich helpu i gyflawni'r rôl hon
  1. Cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda'ch rheolwr
  2. Tîm profiadol a chefnogol o'ch cwmpas
  3. Eich cefnogi drwy estyn cyfleoedd ichi hyfforddi a datblygu yn ôl yr angen mewn ffyrdd sy'n berthnasol i'r swydd
  4. Cynllun mentora