Head of Children's Social Care
Posted 5 hours 58 minutes ago by Pembrokeshire County Council
Pembrokeshire County Council
Head of Children's Social Care
Salary: £91,884 - £100,866 plus car allowance of £6,494 and relocation package
Location: Haverfordwest, Pembrokeshire
Closing date: Friday 5th September 2025
Pembrokeshire is one of the UK's most stunning and distinctive counties, home to the world-renowned Pembrokeshire Coast National Park and a thriving, close-knit community. While our natural beauty supports a thriving tourist economy, attracting millions of visitors each year, our growing green and blue energy sector is helping to power a sustainable future for the region.
As a Council, we are in the midst of a journey of transformation to drive improvement throughout our organisation, to better serve the people and businesses of Pembrokeshire, today and in the years ahead.
At this critical time, we are seeking a passionate and forward-thinking Head of Children's Social Care to lead our children's services through a period of innovation, investment and change.
You will play a vital role in shaping and delivering a service that places prevention and early intervention at its heart. Collaborating cross-organisationally and with external partners will be essential here, including regional health and safeguarding board colleagues, care providers, academic partners, voluntary sector organisations and community groups. Our vision as a Council is working together, improving lives and so our integrated services are well-established. You will be a key part of a system that understands the clear importance of working alongside children and families to help them be safe, secure, thriving and happy.
This is a high-profile role, with a strong level of support across the organisation. We are therefore looking for a leader who is values-driven, relational in their approach, and committed to doing things differently. You will need to be agile, outward-looking, and confident in navigating complexity and risk, whilst bringing a deep understanding of the drivers of demand in children's services, and a talent for aligning innovative thinking with practical resource management.
We welcome applications from experienced, qualified Heads of Service, as well as those ready to take the next step in their career. What matters most is that you bring the right values, a collaborative mindset, and the ability to lead with integrity and purpose.
For further information, please visit:
For a confidential discussion, speak to our executive search partners at GatenbySanderson: Louise Bickley (), Rebecca Hopkin () or Seb Lowe ().
Cyngor Sir Penfro
Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant
Cyflog: £91,884 - £100,866 ynghyd â lwfans car o £6,494 a phecyn adleoli
Lleoliad: Hwlffordd, Sir Benfro
Dyddiad cau: Dydd Gwener 5 Medi 2025
Mae Sir Benfro yn un o siroedd mwyaf syfrdanol a nodedig y DU, yn gartref i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy'n enwog ledled y byd a chymuned ffyniannus, glos. Er bod ein harddwch naturiol yn cynnal economi dwristiaeth lewyrchus, gan ddenu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, mae ein sector ynni gwyrdd a glas sy'n tyfu yn helpu i bweru dyfodol cynaliadwy i'r rhanbarth.
Fel cyngor, rydym yng nghanol taith o drawsnewid i ysgogi gwelliant ledled ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu pobl a busnesau Sir Benfro yn well, heddiw ac yn y blynyddoedd i ddod.
Ar yr adeg dyngedfennol hon, rydym yn chwilio am Bennaeth Gofal Cymdeithasol Plant angerddol a blaengar i arwain ein gwasanaethau plant trwy gyfnod o arloesi, buddsoddi a newid.
Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio a darparu gwasanaeth sy'n rhoi atal ac ymyrraeth gynnar wrth wraidd ei waith. Bydd cydweithio ar draws sefydliadau a chyda phartneriaid allanol yn hanfodol yma, gan gynnwys cydweithwyr ar y byrddau iechyd a diogelu rhanbarthol, darparwyr gofal, partneriaid academaidd, sefydliadau'r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol. Ein gweledigaeth fel cyngor yw cydweithio, gwella bywydau ac felly mae ein gwasanaethau integredig wedi'u hen sefydlu. Byddwch yn rhan allweddol o system sy'n deall pwysigrwydd clir gweithio ochr yn ochr â phlant a theuluoedd i'w helpu i fod yn ddiogel, yn saff, yn hapus ac i ffynnu.
Mae hon yn rôl uchel ei phroffil, gyda chefnogaeth gref ar draws y sefydliad. Felly, rydym yn chwilio am arweinydd â gwerthoedd yn ei lywio, sy'n mabwysiadu dull sy'n adeiladu ar gydberthnasau, ac sydd wedi ymrwymo i wneud pethau'n wahanol. Bydd angen i chi fod yn ystwyth, yn dreiddiol, ac yn hyderus wrth lywio cymhlethdod a risg, gan ddod â dealltwriaeth ddofn o'r ffactorau sy'n sbarduno'r galw am wasanaethau plant, a dawn i gyfuno meddwl mewn modd arloesol â rheoli adnoddau'n ymarferol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan benaethiaid gwasanaeth profiadol a chymwys, yn ogystal â'r rhai sy'n barod i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfa. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich bod chi'n dod â'r gwerthoedd cywir, meddylfryd cydweithredol, a'r gallu i arwain ag uniondeb a phwrpas.
Am ragor o wybodaeth, ewch i:
Am drafodaeth gyfrinachol, siaradwch â'n partneriaid chwilio gweithredol yn GatenbySanderson: Louise Bickley (), Rebecca Hopkin () neu Seb Lowe ().