Director of Finance - Wales Pension Partnership InvestmentManagement Company, Cyfarwyddwr Cyllid - Cwmni Rheoli BuddsoddiadauPartneriaeth Pensiwn Cymru

Posted 14 hours 20 minutes ago by Odgers Berndtson

Permanent
Not Specified
Public Sector Jobs
Wales, United Kingdom
Job Description

£125,000 per annum + bonus + generous pension + benefits Wales / Hybrid

WPP IM Co is being established as an FCA-regulated investment management company to serve the eight Welsh Local Government Pension Scheme funds, managing more than £25 billion for 412,000 members. This is a once-in-a-generation opportunity to help shape a permanent, world-class investment institution for Wales and to design and lead the investment capability of a new, regulated company at the heart of UKLGPS reform.

With Government backing, and authorisation targeted for March 2026, WPP IM Co will operate to global standards with a Welsh purpose - combining professional excellence with a clear public mandate. Over time, WPP IM Co will help channel long-term pension capital into clean energy, affordable housing, innovation and other investments that strengthen Wales and the UK - demonstrating how responsible investment can serve members and the communities they live in.

The organisation is now seeking its first ever Director of Finance to serve as Executive Director and hold FCA Senior Management Function (SMF3) approval on authorisation. Reporting to the CEO and working closely with the Audit & Risk Committee Chair and Director of Financial Risk, the Director of Finance will lead financial management, planning and control across the company - establishing robust frameworks that ensure transparency, prudence and accountability in a regulated environment.

You will join a compact, high-calibre executive team and play a pivotal role through mobilisation, authorisation and launch, building the financial systems, reporting and governance that will underpin a £25 billion organisation with a public purpose.

You may already be a Finance Director in an FCA-regulated setting or a senior finance professional ready to take that next step. You will bring a strong command of financial-control frameworks, statutory and prudential reporting, and audit oversight. A qualified accountant (CIPFA, ACA, ACCA, CIMA or equivalent), you will also bring experience designing or overseeing MIFIDPRU, ICAAP or liquidity-management frameworks.

Experience within the LGPS or public sector is not required. Welsh connectivity or experience would be advantageous but is not essential. Welsh language proficiency is also not essential but would be an advantage.

To have a confidential conversation about the role with Odgers' team in Wales, please call Jemma Terry, Leighton Freeman or Steffan Griffiths on or email us at . All applications will be acknowledged, and we particularly welcome applications from diverse candidates.

To apply, please submit a CV by 07 November 2025.

£125,000 y flwyddyn + bonws + pensiwn hael + buddion Cymru / Hybrid

Mae Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei sefydlu fel cwmni rheoli buddsoddiadau a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i wasanaethu'r wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru, gan reoli mwy na £25 biliwn ar gyfer 412,000 o aelodau. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i helpu i lunio sefydliad buddsoddi parhaol, o'r radd flaenaf i Gymru ac i ddylunio ac arwain gallu buddsoddi cwmni newydd a reoleiddir sydd wrth wraidd diwygio Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y DU.

Gyda chefnogaeth y Llywodraeth, gan dargedu awdurdodiad ar gyfer mis Mawrth 2026, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn gweithredu yn ôl safonau byd-eang gyda phwrpas Cymreig - gan gyfuno rhagoriaeth broffesiynol â mandad cyhoeddus clir. Dros amser, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn helpu i sianelu cyfalaf pensiwn hirdymor i ynni glân, tai fforddiadwy, arloesi a buddsoddiadau eraill sy'n cryfhau Cymru a'r DU - gan ddangos sut y gall buddsoddi cyfrifol fod o fudd i aelodau a'r cymunedau lle maent yn byw.

Mae'r sefydliad bellach yn chwilio am ei Gyfarwyddwr Cyllid cyntaf erioed i wasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweithredol a chael cymeradwyaeth Swyddogaeth Uwch-reolwr (SMF3) gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar ôl awdurdodiad. Gan fod yn atebol i'r Prif Swyddog Gweithredol a gweithio'n agos gyda Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a'r Cyfarwyddwr Risg Ariannol, bydd y Cyfarwyddwr Cyllid yn arwain rheolaeth ariannol, cynllunio a rheoli ar draws y cwmni - gan sefydlu fframweithiau cadarn sy'n sicrhau tryloywder, darbodaeth ac atebolrwydd mewn awyrgylch a reoleiddir.

Byddwch yn ymuno â thîm gweithredol bach, o'r radd flaenaf ac yn chwarae rôl allweddol drwy ysgogi, awdurdodi a lansio, ynghyd ag adeiladu'r systemau ariannol ac adrodd a llywodraethu, a fydd yn sail i sefydliad gwerth £25 biliwn sydd â phwrpas cyhoeddus.

Efallai eich bod eisoes yn Gyfarwyddwr Cyllid mewn lleoliad a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu'n uwch-weithiwr cyllid proffesiynol sy'n barod i gymryd y cam nesaf hwnnw. Bydd gennych reolaeth gref ar fframweithiau rheoli ariannol, adroddiadau statudol a darbodus, a goruchwylio archwilio. Byddwch yn gyfrifydd sydd wedi cymhwyso (CIPFA, ACA, ACCA, CIMA neu gyfwerth), a bydd hefyd gennych brofiad o ddylunio neu oruchwylio MIFIDPRU, ICAAP neu fframweithiau rheoli hylifedd.

Nid oes angen profiad o fewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu yn y sector cyhoeddus. Byddai cysylltiad â Chymru neu brofiad o Gymru yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol. Nid yw hyfedredd yn y Gymraeg yn hanfodol chwaith, ond byddai'n fanteisiol.

I gael sgwrs cyfrinachol am y rôl gyda'r thîm Odgers Cymru, cysylltwch â Jemma Terry, Leighton Freeman neu Steffan Griffiths ar neu ebostiwch . Bydd pob cais yn cael ei gydnabod, a rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr amrywiol.

I ymgeisio, danfonwch CV erbyn 07 Tachwedd 2025.