Chief Investment Officer - Wales Pension PartnershipInvestment Management Company, Prif Swyddog Buddsoddi - CwmniRheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru
Posted 14 hours 25 minutes ago by Odgers Berndtson
Competitive salary + bonus + generous pension + benefits Hybrid, with regular time in Wales
WPP IM Co is being established as an FCA-regulated investment management company to serve the eight Welsh Local Government Pension Scheme funds, managing more than £25 billion for 412,000 members. This is a once-in-a-generation opportunity to help shape a permanent, world-class investment institution for Wales and to design and lead the investment capability of a new, regulated company at the heart of UKLGPS reform.
With Government backing, and authorisation targeted for March 2026, WPP IM Co will operate to global standards with a Welsh purpose - combining professional excellence with a clear public mandate. Over time, WPP IM Co will help channel long-term pension capital into clean energy, affordable housing, innovation and other investments that strengthen Wales and the UK - demonstrating how responsible investment can serve members and the communities they live in.
The organisation is now seeking its first ever Chief Investment Officer to lead the investment function of this new institution and hold FCA Senior Management Function (SMF3) approval on authorisation. Reporting to the CEO, the CIO will set and deliver the organisation's investment strategy, oversee external managers and allocators, and ensure the company meets the highest standards of fiduciary duty, performance and responsible investment.
You will join a compact, high-calibre executive team and lead an Investment function covering strategy implementation, investment advice, local investments and legacy assets. The CIO will play a pivotal role through mobilisation, authorisation and launch, helping to shape the investment model from inception.
You may be an existing CIO, or an experienced institutional investor or senior consultant ready to take that step. You will bring deep experience in institutional investment management, asset allocation or fiduciary advice and a strong understanding of multi-asset portfolio construction, risk and manager oversight. You will bring a collaborative and confident style, an ability to engage across stakeholders, and an understanding of how to balance long-term performance with purpose.
Knowledge of the LGPS or public sector pensions is desirable as is Welsh connectivity or experience. The ability to speak Welsh is not essential, however would be an advantage.
To have a confidential conversation about the role with Odgers' team in Wales, please call Jemma Terry, Leighton Freeman or Steffan Griffiths on or email us at . All applications will be acknowledged, and we particularly welcome applications from diverse candidates.
To apply, please submit a CV by 14 November 2025.
Cyflog cystadleuol + bonws + pensiwn hael + buddion Hybrid, gydag amser yn rheolaidd yng Nghymru
Mae Cwmni Rheoli Buddsoddiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei sefydlu fel cwmni rheoli buddsoddiadau a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i wasanaethu'r wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru, gan reoli mwy na £25 biliwn ar gyfer 412,000 o aelodau. Dyma gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i helpu i lunio sefydliad buddsoddi parhaol, o'r radd flaenaf i Gymru ac i ddylunio ac arwain gallu buddsoddi cwmni newydd a reoleiddir sydd wrth wraidd diwygio Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y DU.
Gyda chefnogaeth y Llywodraeth, gan dargedu awdurdodiad ar gyfer mis Mawrth 2026, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn gweithredu yn ôl safonau byd-eang gyda phwrpas Cymreig - gan gyfuno rhagoriaeth broffesiynol â mandad cyhoeddus clir. Dros amser, bydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau PPC yn helpu i sianelu cyfalaf pensiwn hirdymor i ynni glân, tai fforddiadwy, arloesi a buddsoddiadau eraill sy'n cryfhau Cymru a'r DU - gan ddangos sut y gall buddsoddi cyfrifol fod o fudd i aelodau a'r cymunedau lle maent yn byw.
Mae'r sefydliad bellach yn chwilio am ei Brif Swyddog Buddsoddi cyntaf erioed i arwain swyddogaeth fuddsoddi'r sefydliad newydd hwn a chael cymeradwyaeth Swyddogaeth Uwch-reolwr (SMF3) gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar ôl awdurdodiad. Gan fod yn atebol i'r Prif Swyddog Gweithredol, bydd y Prif Swyddog Buddsoddi yn gosod ac yn cyflwyno strategaeth fuddsoddi'r sefydliad, yn goruchwylio rheolwyr a dyranwyr allanol, ac yn sicrhau bod y cwmni'n bodloni'r safonau uchaf o ran dyletswydd ymddiriedol, perfformiad a buddsoddi cyfrifol.
Byddwch yn ymuno â thîm gweithredol bach, o'r radd flaenaf ac yn arwain swyddogaeth fuddsoddi sy'n cwmpasu gweithredu strategaeth, cyngor ar fuddsoddi, buddsoddiadau lleol ac asedau etifeddol. Bydd y Prif Swyddog Buddsoddi yn chwarae rôl ganolog trwy ysgogi, awdurdodi a lansio, gan helpu i lunio'r model buddsoddi o'r cyfnod cychwynnol.
Efallai eich bod eisoes yn Brif Swyddog Buddsoddi, neu'n fuddsoddwr sefydliadol profiadol neu'n uwch-ymgynghorydd sy'n barod i gymryd y cam hwnnw. Bydd gennych brofiad helaeth ym maes rheoli buddsoddiadau sefydliadol, dyrannu asedau neu gyngor ymddiriedol, a dealltwriaeth gref o greu portffolio aml-asedau, risg, a goruchwylio rheolwyr. Byddwch yn gydweithredol ac yn hyderus, a byddwch yn gallu ymgysylltu â rhanddeiliaid, a bydd gennych ddealltwriaeth o sut i gydbwyso perfformiad hirdymor â phwrpas.
Mae gwybodaeth am Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu bensiynau'r sector cyhoeddus yn ddymunol yn ogystal â chysylltiad â Chymru neu brofiad o Gymru. Nid yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol, ond byddai'n fanteisiol.
I gael sgwrs cyfrinachol am y rôl gyda'r thîm Odgers Cymru, cysylltwch â Jemma Terry, Leighton Freeman neu Steffan Griffiths ar neu ebostiwch . Bydd pob cais yn cael ei gydnabod, a rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr amrywiol.
I ymgeisio, danfonwch CV erbyn 14 Tachwedd 2025.